Albert R. Broccoli | |
---|---|
Ganwyd | Albert Romolo Broccoli ![]() 5 Ebrill 1909 ![]() Queens ![]() |
Bu farw | 27 Mehefin 1996 ![]() o methiant y galon ![]() Beverly Hills ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd ![]() |
Priod | Gloria Blondell, Dana Broccoli ![]() |
Plant | Barbara Broccoli, Michael G. Wilson ![]() |
Perthnasau | Pat DiCicco ![]() |
Gwobr/au | CBE, British Academy Film Awards, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Cynhyrchydd ffilmiau o'r Unol Daleithiau oedd Albert Romolo Broccoli CBE (5 Ebrill 1909 – 27 Mehefin 1996), a enillodd Wobr yr Academi. Cynhyrchodd dros ddeugain ffilm yn ystod ei yrfa, y rhan fwyaf ohonynt yn y Deyrnas Unedig, ac wedi'u ffilmio'n aml iawn yn Stiwdios Pinewood. Fel cyd-sylfaenydd Danjaq, LLC ac EON Productions, mae Broccoli yn fwyaf adnabyddus fel cynhyrchydd y ffilmiau eiconig James Bond. Gwelodd ef a Harry Saltzman y datblygiad o gynhyrchu ffilmiau cyllid cymharol isel, i ffilmiau llawer mwy o faint gyda chyllid llawer mwy sylweddol, ac mae olynwyr Broccoli yn parhau i gynhyrchu ffilmiau Bond newydd.