Aled Rhys Wiliam | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1926 ![]() |
Bu farw | 1 Ionawr 2008 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgolhaig dyneiddiol, darlledwr ![]() |
Cyflogwr |
Ysgolhaig, darlledwr a bardd Cymreig oedd Aled Rhys Wiliam (4 Rhagfyr 1926 – 1 Ionawr 2008).[1]
Ganed ef yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Athro Stephen J. Williams ac yn frawd i Urien Wiliam. Magwyd ef yn Abertawe, ac astudiodd Gymraeg, Lladin a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n ymchwilio i Gyfraith Hywel dan Idris Foster yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen, a chyhoeddodd argraffiad o Lyfr Iorwerth ym 1960.
Bu'n olygydd cynorwythol Geiriadur Prifysgol Cymru o 1954 ymlaen, ac yn 1956 daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Cyncoed, Caerdydd. Daeth yn gyflwynydd ar BBC Cymru, yn arbennig ar y rhaglen Heddiw. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984 am gerdd Y Pethau Bychein.