Alex Sanders | |
---|---|
![]() Alex Sanders, dan wisgo gynau defodol | |
Ffugenw | Verbius ![]() |
Ganwyd | Orrell Alexander Carter ![]() 6 Mehefin 1926 ![]() Penbedw ![]() |
Bu farw | 30 Ebrill 1988 ![]() o canser yr ysgyfaint ![]() Sussex ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | Wica ![]() |
Priod | Maxine Sanders ![]() |
Ocwltydd Seisnig ac Archoffeiriad mewn crefydd Neo-baganaidd o'r enw Wica oedd Alex Sanders (6 Mehefin 1926 – 30 Ebrill 1988). Ganed Sanders yn Orrell Alexander Bibby. Ei enw crefft oedd Verbius. Creodd Sanders draddodiad Wicaidd o'r enw Wica Alecsandraidd yn y 60au, a seiliwyd yn fawr ar Wica Gardneraidd.
O dras dosbarth gweithiol, dechreuodd Sanders, yn ddyn ifanc, weithio fel mediwm mewn Eglwysi Ysbrydol. Ar ôl hynny, astudiodd ac ymarferodd Sanders ddewiniaeth seremonïol. Ym 1963, cafodd ef ei ynydu i mewn i Wica Gardneraidd ac aeth ef ymlaen i sefydlu ei gwfen ei hun. Wrth sefydlu'r cwfen cyntaf hwn, cyflwynodd ef dechnegau dewiniaeth seremonïol. Honnodd ef iddo gael ei ynydu gan ei fam-gu Gymraeg, Mary Bibby (née Roberts),[1] yn blentyn, ond mae ymchwil ddiweddar wedi gwrthbrofi'r honiad hwn, gan y bu farw ei fam-gu ym 1907, rhyw 19 mlynedd cyn i Sanders gael ei eni.[1]
Yn ystod y 1960au, ymddangosodd ef yn y papurau ac ar gyfryngau eraill yn aml, gan gynnwys nifer o raglenni dogfen. Priododd ef â dynes llawer iau nag ef o'r enw Maxine Sanders, a dechreuodd y rhai a ynydwyd ganddo ei alw yn "Frenin y Gwrachod". Nid oedd ambell i Wrach Gardneraidd yn hoff iawn o hyn, gan gynnwys Patricia Crowther ac Eleanor Bone, ac felly gwrthodont ef. Ynghyd â Maxine Sanders ac Archoffeiriadesau eraill, datblygodd Sadners ei draddodiad Wicaidd. Yn y 1970au a'r 1980au hwyr, sefydlodd ef grŵp dewiniaeth seremonïol o'r enw Ordine Della Luna, cyn iddo farw ym 1988.