Alexander Rodchenko | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Tachwedd 1891 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() St Petersburg ![]() |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1956 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, ffotograffydd, cerflunydd, pensaer, dylunydd graffig, cynllunydd, teipograffydd, artist, arlunydd graffig ![]() |
Arddull | figure, celf haniaethol, portread, geometric abstraction, celf genre, celf tirlun ![]() |
Mudiad | Adeileddiaeth, Ciwbiaeth, Swprematiaeth ![]() |
Priod | Varvara Stepanova ![]() |
Plant | Varvara Rodchenko ![]() |
Peintiwr, cerflunydd, ffotograffydd a dylunydd o Rwsia oedd Aleksander Mikhailovich Rodchenko (Rwsieg: Алекса́ндр Миха́йлович Ро́дченко; (5 Tachwedd 1891 – 3 Rhagfyr 1956). Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr y mudiad celfyddydol lluniadaeth (constructivist). Roedd yn briod i'r arlunydd Varvara Stepanova. Roedd Rodchenko yn un o'r arlunwyr lluniadaethol mwyaf amlddoniog i ymddangos wedi Chwyldro Rwsia 1917. Gweithiodd fel peintiwr a dylunydd graffig cyn troi at photomontage a ffotograffiaeth. Roedd ei ffotograffiaeth ddyfeisgar, yn arloesol ac yn tynnu'n groes i esthetegb peintio draddodiadol. Gan geisio creu ffotograffau i'w dogfenni a'u dadansoddi roedd yn aml yn tynnu ei ffotograffau o onglau cam neu safbwyntiau anarferol o isel neu uchel er mwyn rhoi sioc a'i wneud yn anoddach i adnabod ar unwaith testun y llun.
Ysgrifennodd Rodchenko: "Rhaid tynnu sawl llun o'r testun, o safbwyntiau a sefyllfaoedd gwahanol, fel petai rhywun yn ei archwilio yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag edrych trwy'r un twll y clo drosodd a throsodd."