Fformiwla cwadratig sy'n mynegi'r ateb i'r hafaliad gradd dau ax2 + bx + c = 0, ble nad yw a yn sero, yn nhermau o'i gyfernodau (coefficients) a, b a c. | |
Enghraifft o: | maes o fewn mathemateg, damcaniaeth mathemategol |
---|---|
Rhan o | mathemateg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cangen eang o fathemateg yw algebra sy'n defnyddio llythrennau a symbolau eraill i gynrychioli rhifau mewn fformiwlâu a hafaliadau. Rhoddir yr enw "algebra" hefyd ar system algebraidd sy'n seiliedig ar wirebau penodol.[1] Gelwir mathemategydd sy'n arbenigo yn y maes hwn yn "algebrydd". Mae astudio algebra yn hanfodol nid yn unig i fathemategwyr ac ystadegwyr ond hefyd i wyddonwyr, peiriantwyr, ac economegwyr, ac mae ganddi ddefnyddiau mewn sawl maes arall gan gynnwys meddygaeth, busnes a chyfrifiadureg.
Mae algebra elfennol yn wahanol i rifyddeg wrth ddefnyddio haniaethau, megis defnyddio llythrennau neu symbolau i sefyll am rifau sydd naill ai'n anhysbys neu'n cael cymryd llawer o werthoedd.[2] Er enghraifft, yn y symbol yn anhysbys, ond gall defnyddio additive inverses ddatgelu ei werth: . Mae Algebra yn rhoi dulliau ar gyfer ysgrifennu fformwlâu a datrys hafaliadau sy'n llawer cliriach a haws na'r dull hŷn o ysgrifennu popeth allan mewn geiriau. Llwybr tarw, felly yw algebra!
Defnyddir y gair algebra hefyd mewn rhai ffyrdd arbenigol. Gelwir math arbennig o wrthrych mathemategol mewn algebra haniaethol yn "algebra", a defnyddir y gair, er enghraifft, yn yr ymadroddion algebra llinol a thopoleg algebraidd.
Gelwir mathemategydd sy'n gwneud ymchwil mewn algebra yn algebra-ydd.