Alice Munro | |
---|---|
Ganwyd | Alice Ann Laidlaw 10 Gorffennaf 1931 Wingham |
Bu farw | 13 Mai 2024 Port Hope |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, nofelydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr |
Adnabyddus am | Too Much Happiness, Dear Life, Something I've Been Meaning to Tell You |
Arddull | stori fer |
Prif ddylanwad | John Updike |
Priod | James Munro, Gerald Fremlin |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Lyfrau Trillium, Urdd Ontario, Gwobr Ryngwladol Man Booker, chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Genedlaethol Cylch y Beirniaid Llyfrau, Gwobr Marian Engel, Gwobr Lenyddol WH Smith, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr Rea am y Stori Fer, Gwobr O. Henry, Gwobr Ysgrifennwr y Gymanwlad, Gwobr Molson, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen Saesneg, Gwobr O. Henry, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Scotiabank Giller, Gwobr Scotiabank Giller, Atwood Gibson Writers' Trust Fiction Prize, Lorne Pierce Medal |
Llenores o Ganada a ysgrifennai straeon byrion yn yr iaith Saesneg oedd Alice Ann Munro (gynt Laidlaw; 10 Gorffennaf 1931 – 13 Mai 2024). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 2013 am iddi "feistroli'r stori fer gyfoes".[1] Adlewyrchir ei phlentyndod yn ei straeon, a leolir gan amlaf mewn trefi bychain yng Nghanada, a phroblemau perthynas a gwrthdaro moesol yw'r themâu cyffredin. Fe'i ystyrir yn un o oreuon llên Canada ac un o'r awduron straeon byrion gwychaf yn llenyddiaeth Saesneg fodern. Cafodd ei chymharu'n aml ag Anton Chekhov.[2][3][4]
Ganwyd Alice Ann Laidlaw yn nhref Wingham, Ontario, yn ferch i ffermwr cadnoaid ac athrawes. Mynychodd Prifysgol Gorllewin Ontario i astudio newyddiaduraeth, a newidiodd ei gradd i Saesneg yn yr ail flwyddyn. Priododd ei chyd-fyfyriwr James Munro ym 1951, a chawsant tair merch, a bu farw un ohonynt ar ddiwrnod ei genedigaeth. Ym 1963, ar ôl byw yn Vancouver am nifer o flynyddoedd, symudant i Victoria, British Columbia, ac agorant siop lyfrau, a chawsant merch arall ym 1966. Yn y 1950au a'r 1960au, cyhoeddodd Alice ei straeon mewn sawl cylchgrawn a chyfnodolyn llenyddol, a darlledwyd nifer ohonynt ar radio'r CBC. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Dance of the Happy Shades, ym 1968.
Chwalodd ei phriodas gyntaf ym 1972, a dychwelodd Alice i Ontario. Am gyfnod bu'n addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol York, Toronto, a chafodd ei phenodi'n llenores breswyl ei hen goleg, Prifysgol Gorllewin Ontario, ym 1974–75. Priododd Gerald Fremlin ym 1976, a symudant i Clinton yn Swydd Huron, ardal ei phlentyndod. Adeg hon, dechreuodd ei pherthynas hir â The New Yorker. Lledaenodd ei henw yn y 1980au, a chyhoeddwyd ei straeon mewn cylchgronau rhyngwladol: Atlantic Monthly, GQ, Granta, a'r Paris Review. Yn y 1990au a'r 2000au ymddangosodd ei gwaith yn y London Review of Books, American Scholar, Harper's, New Statesman, a Virginia Quarterly Review. Rhwng 1968 a 2014, cyhoeddwyd pedair cyfrol ar ddeg o straeon byrion ganddi, a saith casgliad ychwanegol. Enillodd Wobr y Llywodraethwr Cyffredinol teirgwaith a Gwobr Giller dwywaith, a Gwobr Ryngwladol Man Booker yn 2009. Hi oedd y drydedd fenyw ar ddeg i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, a'r cyntaf o Ganada (os na chyfrif Saul Bellow, a dreuliodd ei wyth mlynedd gyntaf yng Nghanada cyn symud i'r Unol Daleithiau).[5] Rhoes y gorau i ysgrifennu oddeutu amser ei Gwobr Nobel, a dioddefai o ddementia am ddeuddeng mlynedd olaf ei hoes. Bu farw Alice Munro mewn cartref nyrsio yn Port Hope, Ontario, yn 92 oed.[6]