Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alpau ![]() |
Cylchfa amser | amser safonol Japan ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Chūbu ![]() |
Sir | Niigata, Toyama, Yamanashi, Shizuoka, Gifu, Nagano ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 3,193 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 36°N 137°E ![]() |
![]() | |
Casgliad o res o fynyddoedd yng nghanolbarth Japan yw Alpau Japan (Japaneg: 日本アルプス Nihon Arupusu) sydd yn trawstori ynys Honshū, ynys fwyaf y wlad. Daeth yr enw Saesneg "Japanese Alps" o William Gowland, archeolegydd o Loegr a adnabyddir yn aml fel "Tad Archeoleg Japan" cyn cael ei boblogeiddio gan y Parchedig Walter Weston (1861–1940), cenhadwr o Loegr sydd bellach â cofeb yn nhref Kamikochi, man poblogaidd i dwristiaid a ddaw i Alpau Japan. Pan ddyfeisiodd William Gowland yr enw, yr oedd yn cyfeirio at Fynyddoedd Hida yn unig. Daeth yr ardal i enwogrwydd drwy gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf Nagano 1998.