Altaf Hussain AS | |
---|---|
![]() | |
Aelod Cynulliad dros Gorllewin De Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Suzy Davies |
Mewn swydd 19 Mai 2015 – 5 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Byron Davies |
Dilynwyd gan | Dai Lloyd |
Manylion personol | |
Ganed | Srinagar, India |
Plaid gwleidyddol | Ceidwadwyr |
Cartref | Pen-y-fai |
Addysg |
|
Gwaith | Llawfeddyg |
Gwefan | www.altafhussain.wales |
Gwleidydd yw Altaf Hussain ac aelod o'r blaid Geidwadol. Mae'n Aelod o'r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru ers Etholiad 2021, ac fe wasanaethodd gyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2016. Mae'n llawfeddyg orthopedig ymgynghorol wedi ymddeol.[1] Cyn diddymu'r pedwerydd cynulliad, eisteddodd ar y Pwyllgor Iechyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac roedd yn Weinidog Cysgodol dros Wasanaethau Cymdeithasol. Gorchfygwyd ef yn etholiadau Cynulliad Cymru 2016. Yn 2017 cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ym mis Ionawr 2018 penodwyd yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Brynawel Rehab UK.