Alvin Langdon Coburn | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Mehefin 1882 ![]() Boston ![]() |
Bu farw | 23 Tachwedd 1966 ![]() Llandrillo-yn-Rhos ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | ffotograffydd ![]() |
Bu Alvin Langdon Coburn (11 Mehefin 1882 - 23 Tachwedd 1966) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn Harlech ac wedyn Llandrillo-yn-Rhos i ganolbwyntio ar fod yn Saer Rhydd.
Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda Symbolism, Pictorialism a chreu delweddau Vortographs a oedd wedi'u dylanwadu gan y grŵp celfyddydol Seisnig y Vorticists.
Ganwyd yn ninas Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau i deulu cyfoethog. Symudodd i Lundain cyn rhoi'r gorau i'w yrfa ffotograffig a symud eto i fyw yng Nghymru. Derbyniodd wahoddiad i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927.[1]