Amanda Levete | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Tachwedd 1955, 1959 ![]() Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Museum of Art, Architecture and Technology, Lord's Media Centre, Selfridges Building, Birmingham ![]() |
Priod | Jan Kaplický, Ben Evans ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Stirling, Gwobr Jane Drew, CBE ![]() |
Pensaer o Gymraes yw Amanda Levete (ganed 17 Tachwedd 1955). Gyda'i gŵr ar y pryd, Jan Kaplický, enillodd Wobr Stirling RIBA ar gyfer pensaernïaeth ragorol ym 1999.
Ganwyd Levete ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac astudiodd yn St Paul's, ysgol fonedd i ferched yn Llundain, ac Ysgol Gelf Hammersmith, cyn ymaelodi â'r Architectural Association, hefyd yn Llundain.[1] Cafodd ei phrentisiaeth â'r pensaer Will Alsop ac yna aeth i weithio i bartneriaeth Richard Rogers.[1] Cyn ei 30 oed roedd wedi sefydlu ei chwmni ei hun, Powis & Levete, ar y cyd â Geoffrey Powis.[2]
Yn y 1980au hwyr cyfarfu â'r pensaer Tsiecaidd, Jan Kaplický,[3] a sefydlodd y ffỳrm Future Systems yn 1979.[4] Daeth Levete yn bartner gyda'r cwmni ym 1989[4] a bu i'r ddau briodi ym 1991.[5] Ym 1998 cynlluniodd Future Systems dŷ o'r enw Malator yn Druidston, Sir Benfro, ar gyfer y cyn-AS Llafur Bob Marshall-Andrews a'i wraig.[6] Ym 1999 enillodd Future Systems Wobr Stirling am Ganolfan y Cyfryngau ym Maes Criced Lord's, Llundain. Hwn oedd yr adeilad cyntaf a wnaed yn gyfangwbl o alwminiwm yn y byd.[4] Yn 2003, Future Systems a gynlluniodd siop adrannol Selfridges yn Birmingham.[3] Gelwid y ddau bartner yn "benseiri dewraf eu cenhedlaeth".[4]
Ysgarodd Levete a Kaplický yn 2006[3] ac yn 2007 priododd Ben Evans, cyfarwyddwr Gŵyl Ddylunio Llundain. Daeth partneriaeth Future Systems i ben yn 2008 a sefydlodd Levete y cwmni Amanda Levete Associates,[3] a adwaenir bellach fel AL_A. Bu Kaplický farw yn 2009.[3] Yn 2011 enillodd AL_A y gystadleuaeth i adnewyddu Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.[3]