Prif fynedfa'r amgueddfa | |
Math | adeilad amgueddfa, amgueddfa, amgueddfa genedlaethol, oriel gelf, amgueddfa hanes natur |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1922 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru |
Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 13.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.485577°N 3.177128°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (Saesneg: National Museum Cardiff) yw amgueddfa genedlaethol Cymru ar gyfer celf, archeoleg, a hanes byd natur. Lleolir hi ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, mewn adeilad y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1912, er na agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd tan 21 Ebrill 1927.[1] Mae'n aelod o Amgueddfa Cymru, sef y rhwydwaith o amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru (a elwid gynt yn Amgueddfeydd ac Oriel Genedlaethol Cymru). Ymhlith ei harddangosfeydd parhaol y mae un am Esblygiad Cymru, sydd yn cyfuno cyflwyniadau fideo a gwrthrychau megis esgyrn deinosoriaid a chreigiau hynafol er mwyn adrodd hanes Cymru ers yr amseroedd cynharaf. Mae yno hefyd oriel llawn gwrthrychau amrywiol o gasgliadau'r amgueddfa y gellir eu cyffwrdd, sef Oriel Glanelai.