Enghraifft o: | ideoleg |
---|---|
Y gwrthwyneb | Tawddlestr, Leitkultur, monoculturalism |
Rhan o | social philosophy, social policy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gair amlddiwylliannaeth neu amlddiwylliant yn dynodi categori gwleidyddol eang[1] sydd yn gyffredinol yn ymwneud ag agweddau a damcaniaethau sydd yn hybu derbyniad o, a chymhwysiad a goddefgarwch tuag at, wahanol ddiwylliannau.
Disgrifir gwahanol fathau ac amlygiadau o amlddiwylliannaeth fel athroniaeth o wleidyddiaeth hunaniaeth,[2] polisi cymdeithasol,[3] gweithredu dros leiafrifoedd,[1] damcaniaethau gwleidyddol o hil, ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ac anabledd,[1] a damcaniaethiad gwleidyddol o gymdeithas i gyd.[1] Ceir hefyd cysyniadau o lefelau amrywiol o amlddiwylliannaeth, er enghraifft "amlddiwylliannaeth feddal" ac "amlddiwylliannaeth galed".[4]
Yn wreiddiol ymddangosodd y cysyniad yn y 1960au yn sgîl polisïau llywodraethol yng Nghanada ac Awstralia ynglŷn â grwpiau lleiafrifol.[1]