System o gludiant nwyddau sy'n defnyddio cynwysyddion rhyngnodol (cynwysyddion llongau neu gynwysyddion ISO) yw amlwythiant.[1] Mae'r cynwysyddion o faint safonol ac maen nhw'n gallu cael eu llwytho a'u dadlwytho, eu pentyrru ar ben ei gilydd, eu cludo yn effeithlon dros bellter mawr, a'u trosglwyddo o un math o gludiant i un arall heb gael eu hagor. Mae'r system ar gyfer ymdrin â hwy wedi'i mecaneiddio yn llwyr fel bod yr holl drin a thrafod yn digwydd gyda chraeniau a wagenni fforch codi arbennig.[2] Mae'r holl gynwysyddion wedi'u rhifo a'u tracio gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol.
Dechreuodd amlwythiant ganrifoedd yn ôl ond ni chafodd ei ddatblygu na'i ddefnyddio'n eang tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gostyngodd gostau cludiant yn fawr, cefnogodd y cynnydd mewn masnach ryngwladol yn dilyn y Rhyfel, a throi'n elfen bwysig o globaleiddio. Gwnaeth amlwythiant y dasg o ddidoli llwythau a storio mewn warysau yn ddiangen, a chafodd effaith fawr ar waith mewn dociau. Lleihaodd dagfeydd mewn porthladdoedd a lleihau'r amser cludo ynghŷd â chostau difrod a lladrad.[3]
Gellir gwneud y cynwysyddion o ddur sy'n gwrthsefyll hindreuliad er mwyn lleihau costau cynnal a chadw.
|deadurl=
ignored (help)