Amroth

Amroth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,232, 1,230 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,818.94 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.73°N 4.66°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000933 Edit this on Wikidata
Cod OSSN1607 Edit this on Wikidata
Cod postSA67 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/au y DUHenry Tufnell (Llafur)
Map

Pentref glan-môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Amroth[1] neu Llanrhath (neu Llanrath sef "yr eglwys ger nant Rhath"). Saif yn ne-ddwyrain y sir ar Fae Caerfyrddin, 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Saundersfoot a 2 filltir i'r dwyrain o bentref Stepaside. Mae'r pentref, sy'n bron iawn ar y ffin â Sir Gaerfyrddin, yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn y 19g pentref ar gyfer teuluoedd glowyr lleol a weithiai ym mhyllau glo carreg (anthracite) yr ardal oedd Amroth. Mae'r tai yn wynebu'r môr ac yn agored iddo, felly ceir nifer o dorrwyr dŵr ar y traeth llydan i'w amddiffyn rhag y llanw uchel. Pan fo'r môr allan gellir gweld olion hen goedwig a foddwyd gan y môr rhai miloedd o flynyddoedd yn ôl (tua 5000 CC yn ôl profion carbon radio). Mae esgyrn anifeiliaid sydd wedi darfod o'r tir yn cael eu darganfod ar y traeth weithiau o bryd i'w gilydd, ynghyd ag offer carreg cynhanesyddol.

Erbyn heddiw mae Amroth yn llawn twristiaid yn yr haf a cheir nifer o barciau carafanau a chalets ar eu cyfer. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]

Amroth


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne