Math | civil time |
---|---|
Y gwrthwyneb | amser (safonol) |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Amser haf (neu amser arbed golau dydd) yw'r arfer o droi'r cloc ymlaen yn ystod misoedd yr haf fel ei bod yn olau yn hwyrach yn y dydd. Yn gyffredinol, mae rhanbarthau sy'n defnyddio amser i arbed golau dydd yn troi'r clociau ymlaen awr yn agos at ddechrau'r gwanwyn ac yn eu troi yn ôl yn yr hydref.[1] Felly mae arbed golau dydd yn golygu awr yn llai o gwsg yn y gwanwyn ac awr ychwanegol o gwsg yn yr hydref.[2][3]
George Hudson gynigiodd y syniad o arbed golau dydd ym 1895[4] ac yn yr Ymerodraeth Almaenig ac Awstria-Hwngari y gweithredwyd ef ar lefel genedlaethol am y tro cyntaf, gan ddechrau ar Ebrill 30 1916. Mae llawer o wledydd wedi'i ddefnyddio ar wahanol adegau ers hynny, yn arbennig ers argyfwng ynni'r 1970au . Yn gyffredinol, nid yw arbed golau dydd yn cael ei weithredu ger y cyhydedd, lle nad yw amserau'r haul yn amrywio digon i'w gyfiawnhau. Mae rhai gwledydd yn ei weithredu mewn rhai rhanbarthau yn unig; fe'i gweithredir yn Ne Brasil, er enghraifft, er nad yw Brasil cyhydeddol yn gwneud hynny.[5] Lleiafrif o boblogaeth y byd sy'n ei ddefnyddio, am nad yw'r rhan fwyaf o Asia ac Affrica yn ei weithredu.
Mae troi'r cloc i amser haf yn cymhlethu cadw amser ac yn gallu tarfu ar deithio, bilio, cadw cofnodion, dyfeisiau meddygol, offer trwm,[6] a phatrymau cwsg.[7] Mae meddalwedd gyfrifiadurol yn aml yn addasu clociau'n awtomatig, ond gall newidiadau polisi gan wahanol awdurdodaethau o ran dyddiadau ac amserau gweithredu'r arbed golau dydd achosi dryswch.[8]