Amy Wadge

Amy Wadge
Ganwyd22 Rhagfyr 1975 Edit this on Wikidata
Backwell Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.amywadge.com/ Edit this on Wikidata

Cantores blues a roc cyfoes yw Amy Wadge (ganwyd 22 Rhagfyr 1975) sy'n dod o Loegr yn wreiddiol ond sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru bellach.[1].

Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel canotres fel aelod o grŵp merched o'r enw 'Two of a Mind' pan oedd yn 14 oed.

Yn 16 oed, aeth Amy i berfformio fel cantores ar ei phen ei hun, gan ysgrifennu ei chaneuon ei hun. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ers hynny mae wedi ymsefydlu yng Nghymru, er ei bod yn wreiddiol o dref Backwell ger Bryste.

Lansiwyd ei sengl gyntaf 'Saddest Eyes' yn 2001 ac yn yr un flwyddyn, gofynnwyd iddi hi berfformio ar gyfer 'Radio 2 Live' yng Nghaerdydd. Roedd y gig mor llwyddiannus, fe'i darlledwyd yn ei chyfanrwydd ar sioe Janice Long.

Ym mis Mawrth 2002, rhyddhawyd ei halbwm fach 'The Famous Hour' ar label 'FF Vinyl'. Denodd yr albwm ymateb mawr ac arweiniodd at berfformiad byw Amy mewn parti i ddathlu dechrau BBC6 Music gyda Lenny Kravitz ac Embrace. Hefyd yn 2002, perfformiodd Amy Wadge o flaen 30,000 o bobl yn Ngŵyl y Werin, yng Nghaer-grawnt a'r Mardi Gras yng Nghaerdydd.

Ym mis Ebrill 2003, derbyniodd Amy Wadge adolygiadau cadarnhaol ar ôl ei thaith gyntaf o amgylch Prydain gyda'i band ac ym mis Mehefin yr oeddynt yn perfformio yng Ngŵyl Glastonbury. Dim ond mis yn ddiweddarach, yr oedd yn cefnogi sêr mawr megis Van Morrison a Bob Geldof ac Amy oedd y brif act yng Ngŵyl Castell Caerffili. Daeth y sengl 'Just in Time' allan ym mis Hydref a chafodd y gantores wahoddiad gan y Cynulliad i berfformio ar gyfer digwyddiad 'Wales Rocks Sydney' i gyd-fynd â Chwpan Rygbi'r Byd. Ar ôl iddi ddod yn ôl o Sydney, aeth ar daith arall o gwmpas Prydain a orffenodd gyda gwahoddiad iddi berfformio ar ddechrau gig Jeff Beck ar gyfer ei daith gyntaf ef ar ôl 14 o flynyddoedd.

Ymddangosodd Amy Wadge yn y gyfres deledu cariad@iaith ar S4C ym mis Mawrth 2004, lle ymgeisiodd i ddysgu Cymraeg gyda'r tiwtor Nia Parry, ac enwogion eraill, gan gynnwys Janet Street Porter, Ruth Madoc, a'r athletwraig Tanni Grey-Thompson.

Yn 2004, lansiwyd ei halbwm llawn cyntaf, 'WOJ'. O ganlyniad i lwyddiant yr albwm hwn, cynyddwyd y diddordeb i'r seren hon yn y byd cerddorol. Fe enillodd hi'r wobr 'Best Female Solo Artist' yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru yn 2002 a 2003 ac roedd hi'n un o'r bobl a ddewiswyd ar gyfer y wobr 'Best Newcomer' yng Ngwobrau'r Pop Factory.

Ers hynny rhyddhau sawl albwm arall, yn ogystal â chydweithio gydag amryw o artistiaid eraill yn cynnwys y bardd Patrick Jones. Mae hi a'i gwr Alun ap Brinley hefyd yn rhieni i ddwy ferch, Mali a Nel, erbyn hyn.

  1. Proffil ar wefan BBC Cymru

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne