Anastas Mikoyan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Tachwedd 1895 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Sanahin ![]() |
Bu farw | 21 Hydref 1978 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwladweinydd, party organizer, chwyldroadwr, llenor ![]() |
Swydd | First Deputy Premier of the Soviet Union, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, Chairman of the Presidium of the Supreme Soviet of the Soviet Union, member of the Supreme Soviet of the Byelorussian SSR of the 1st convocation ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Plant | Stephen Mikoyan, Alexey Mikoyan, Sergo Mikoyan, Vladimir Mikoyan, Ivan Mikoyan ![]() |
Gwobr/au | Urdd Lenin, Urdd y Faner Goch, Urdd y Chwyldro Hydref, Urdd Lenin, "Hammer and Sickle" gold medal, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd ![]() |
llofnod | |
![]() |
Chwyldroadwr Comiwnyddol Armenaidd, Hen Bolsiefic a gwleidydd Sofietaidd oedd Anastas Ivanovich Mikoyan (Saesneg : / m iːkoʊˈjɑːn / ; Rwseg: Анаста́с Ива́нович Микоя́н; Armeneg: Անաստաս Հովհաննեսի Միկոյան Anastas Hovhanes Mikoyan; 25 Tachwedd 1895 – 21 Hydref 1978). Cafodd ei ethol i'r Pwyllgor Canolog ym 1923, ac ef oedd yr unig wleidydd Sofietaidd a oroesodd mewn grym o fewn y Blaid Gomiwnyddol o ddyddiau olaf Lenin, trwy theyrnasiad Stalin a Khrushchev, hyd ei ymddeoliad heddychlon o dan Brezhnev.
Yn dilyn ei dröedigaeth gynnar i achos y Bolsiefic iaid, cymerodd ran yng Nghomiwn Baku dan arweiniad Stephan Shahumyan yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia yn y Cawcasws. Yn y 1920au, gwasanaethodd fel Prif Ysgrifennydd rhanbarth Gogledd Cawcasws. Yn ystod teyrnasiad Stalin, cafodd Mikoyan nifer o swyddi uchel yn y llywodraeth, gan gynnwys swydd Gweinidog Masnach Dramor. Erbyn y 1940au, fodd bynnag, dechreuodd Mikoyan golli ffafr Stalin. Yn 1949 collodd ei swydd fel gweinidog masnach dramor, ac ym mis Hydref 1952 ymosododd Stalin arno'n hallt ym 19ed cyngres y Blaid. Wedi marwolaeth Stalin ym 1953, cafodd Mikoyan rôl flaenllaw eto mewn llunio polisïau. Ef a Khrushchev luniodd y polisi o ddad-Stalineiddio ac yn ddiweddarach daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog o dan Khrushchev. Mikoyan oedd yr ail ffigwr mwyaf pwerus yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod 'Dadmer' Krushchev.
Fe aeth Mikoyan ar nifer o deithiau i'r Giwba comiwnyddol ac i'r Unol Daleithiau, gan ennill bri yn y byd diplomyddol rhyngwladol, yn enwedig efo'i sgil mewn arfer pŵer meddal i hyrwyddo buddiannau Sofietaidd. Ym 1964 gorfodwyd Khrushchev i gamu i lawr a daeth Brezhnev i rym. Gwasanaethodd Mikoyan fel Cadeirydd Presidiwm y Goruchaf Sofiet, Pennaeth Gwladol (di-rym), o 1964 hyd ei ymddeoliad gorfodol ym 1965.