Anatomeg gymharol ydy'r astudiaeth o'r nodweddion cyffredin a'r gwahaniaethau yn anatomegbodau byw. Mae'n wyddoniaeth sy'n perthyn yn agos iawn at fiolegesblygiad ac esblygiad yr amrywiol rywogaethau.
Y ddau gysyniad pennaf yw:
Strwythurau homolog: rhannau o'r corff / anatomi sy'n gyffredin ymhlith gwahanol rywogaethau gan fod gan y rhywogaethau berthynas cyffredin. Efallai fod eu diben, bellach yn hollol wahanol e.e. aelodau blaen (breichiau) cathod a morfilod
Strwythurau cydweddol: strwythurau sy'n wahanol mewn gwahanol rywogaethau gan iddynt esblygu mewn amgylchfyd tebyg (yn hytrach na fod ganddynt berthynas cyffredin). Mae eu diben yn debyg, neu'n eitha tebyg. Mae siâp torpido siarc a llamhidyddion er enghraifft.
Mae'r rheolau dros ddatblygiad nodweddion arbennig yn wahanol iawn yn anatomeg gymharol, i'r homologaeth cyffredin fel y rhestrwyd gan Karl Ernst von Baer (rheolau Baer).