Andover

Andover
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Test Valley
Poblogaeth50,999 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHampshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.2167°N 1.4667°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012839 Edit this on Wikidata
Cod OSSU3645 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Andover.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Test Valley. Saif ar Afon Anton, 19 o filltiroedd (30 km) i'r gorllewin o Basingstoke, 19 o filltiroedd (30 km) i'r gogledd-orllewin o Gaerwynt a 25 o filltiroedd (40 km) i'r gogledd o Southampton. Mae Caerdydd 122 km i ffwrdd o Andover ac mae Llundain yn 101.5 km. Y ddinas agosaf ydy Caerwynt sy'n 20 km i ffwrdd.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 38,290.[2]

Ffurf Hen Saesneg ar yr enw oedd Andeferas. Enw Celtaidd yw hwn yn wreiddiol, o elfen gyntaf a geir yn y Gymraeg fel onn, ac ail elfen, Brythoneg *dubrī 'dyfroedd', felly 'dyfroeddd yr onn'. Mae'r terfyniad -as yn derfyniad lluosog Hen Saesneg, sy'n awgrymu i'r Saeson ddeall ystyr yr enw Brythoneg pan gyrhaeddon nhw'r dref.

Melin Rooksbury yn Andover
  1. British Place Names; adalwyd 18 Mai 2020
  2. City Population; adalwyd 18 Mai 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne