Anecdot

Anecdot
Enghraifft o:dosbarth llenyddol Edit this on Wikidata
Mathstori fer, real-life story, digwyddiad ffuglennol Edit this on Wikidata
Rhan ollên gwerin Edit this on Wikidata

Hanesyn neu stori fechan yw anecdot[1] sydd yn adrodd digwyddiad nodweddiadol am unigolyn neu grŵp o bobl benodol. Stori ddigrif ydyw gan amlaf a draethir er mwyn dangos enghraifft fachog o gymeriad neu agweddau'r un sydd yn destun iddi. Fel rheol, cyflwynir anecdot fel stori wir am ddigwyddiad go iawn ac felly'n esiampl gywir o'r hyn a honnir ei fod yn cynrychioli, ond mae'n bosib i sawl anecdot fod yn orliwiad neu chwedl nad oes tystiolaeth drosti.

Daw'r enw, trwy'r Saesneg a'r Lladin, o'r gair Groeg anekdotos sef "angyhoeddedig", sydd yn dangos yr oedd y fath straeon yn ffurf gyffredin yn y traddodiad llafar. Rhennir sawl nodwedd gan yr anecdot a mathau eraill o adrodd stori megis jôcs, chwedlau, damhegion a ffablau, sïon a sibrydion, celwyddau golau, a straeon asgwrn pen llo. Yn debyg i jôcs a straeon digrif eraill, mae naratif yr anecdot yn gweithio tuag at linell glo neu ddatguddiad o ryw fath. Yr hyn sydd yn nodweddu'r anecdot ydy'r ffaith nad yw'n colli ei ergyd pan gaiff ei ailadrodd oherwydd ei nod yw cadarnhau tybiaeth am destun y stori, ac nid adlonni yn unig.[2]

  1.  anecdot. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2018.
  2. W. F. H. Nicolaisen, "Anecdote" yn Folklore: An Encyclopedia of Beliefs, Customs, Tales, Music, and Art, golygwyd gan Thomas A. Green (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2007), tt. 17–19.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne