Enghraifft o: | afiechyd meddwl, dosbarth o glefyd ![]() |
---|---|
Math | anhwylderau Datgysylltol, clefyd ![]() |
Arbenigedd meddygol | Seiciatreg ![]() |
Achos | Psychological trauma, childhood trauma ![]() |
![]() |
Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol (Dissociative Identity Disorder – DID) byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.
Arferai Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol gael ei alw’n ‘Anhwylder Personoliaeth Luosog’ (Multiple Personality Disorder).
Gall rhywun sydd â DID ‘weld’ eu hunan fel petai wedi ei wneud o nifer o ‘rannau’ (‘alters’ neu ‘parts’) sydd i gyd yn gweithredu, meddwl, profi a rhyngweithio â’r byd yn annibynnol ac ar wahân i’w gilydd.
Rhwng y ‘rhannau’ yma mae yna amnesia ar raddau amrywiol. Mae hyn yn achosi dryswch difrifol ac yn arwain at gael meddyliau, hoffterau, cas bethau a theimladau sy’n gwrthdaro â’i gilydd o fewn y person yn ei gyfanrwydd. Gall bobl canfod eu bod wedi dweud neu wneud rhywbeth, neu wedi teithio i lefydd, heb unrhyw atgof o wneud hynny o ganlyniad i’r amnesia a achoswyd gan y datgysylltu.