Enghraifft o: | tacson, first-order class |
---|---|
Math | heterotroph |
Safle tacson | teyrnas |
Rhiant dacson | Apoikozoa |
Dechreuwyd | Mileniwm 666. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anifeiliaid | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukaryota |
Teyrnas: | Animalia Linnaeus, 1758 |
Ffyla | |
Is-deyrnas Parazoa
Is-deyrnas Eumetazoa
|
Organebau amlgellog, ewcaryotig yn y deyrnas fiolegol Animalia yw anifeiliaid (a elwir hefyd yn wyddonol yn Metazoa). Gydag ychydig eithriadau, mae anifeiliaid yn bwyta deunydd organig, yn anadlu ocsigen, yn gallu symud, atgenhedlu'n rhywiol, a mynd trwy gyfnod ontogenetig lle mae eu corff yn cynnwys sffêr gwag o gelloedd, y blastula, yn ystod datblygiad embryonig. Mae dros 1.5 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid byw wedi’u disgrifio'n wyddonol— ac mae tua miliwn ohonynt yn bryfed—, ond amcangyfrifir bod cyfanswm o dros 7 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid. Mae hyd anifeiliaid yn amrywio o 8.5 micrometr (0.00033 mod) i 33.6 metr (110 tr). Yr astudiaeth o anifeiliaid yw sŵoleg.
Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys bodau dynol yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.[1]
Yn ystod y cyfnod Cambriaidd yr ymddangosodd y ffylwm anifail, a hynny oddeutu 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl; gwelwn hyn yn y dystiolaeth o ffosiliau o'r cyfnod. Rhennir y grwp 'anifeiliaid' yn isgrwpiau, gan gynnwys: adar, mamaliaid, amffibiaid, ymlusgiaid, pysgod a pryfaid.
O ran dosbarthiad, mae'r rhan fwyaf o rywogaethau o anifeiliaid yn byw mewn Bilateria (hy anifeiliaid gyda chymesured dwyochr), ac yn cynnwys y protostomau, sy'n cynnwys infertebratau megis nematodau, arthropodau, a molysgiaid, a'r deuterostomau, sy'n cynnwys yr echinodermau a'r cordadau, gyda'r olaf yn ffylwm o anifeiliaid sy'n cynnwys y fertebratau. Roedd ffurfiau bywyd a ddehonglir fel anifeiliaid cynnar yn bresennol ym biota Ediacaraidd y Cyn-Gambriaidd diweddar. Daeth llawer o ffyla anifeiliaid modern yn amlwg yn y cofnod ffosil fel rhywogaethau morol yn ystod y ffrwydrad Cambriaidd, a ddechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl. mae 6,331 o grwpiau o enynnau sy'n gyffredin i bob anifail byw wedi'u cofnodi; gall y rhain fod wedi codi o un hynafiad cyffredin a oedd yn byw 650 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Yn hanesyddol, dosbarthodd Aristotle anifeiliaid i'r rhai â gwaed a'r rhai heb waed. Creodd Carl Linnaeus y dosbarthiad biolegol hierarchaidd cyntaf ar gyfer anifeiliaid ym 1758 gyda'i Systema Naturae, ac ehangwyd gan Jean-Baptiste Lamarck i 14 ffylwm erbyn 1809. Ym 1874, rhannodd Ernst Haeckel y deyrnas anifeiliaid i'r Metasoa amlgellog (sy'n gyfystyr bellach ag Animalia) a'r Protozoa, organebau ungellog nad oeddent bellach yn cael eu hystyried yn anifeiliaid. Yn y cyfnod modern, mae dosbarthiad biolegol anifeiliaid yn dibynnu ar dechnegau uwch, megis ffylogeneteg moleciwlaidd, sy'n effeithiol wrth ddangos y berthynas esblygiadol rhwng y gwahanol tacsa.
Mae bodau dynol yn defnyddio llawer iawn o rywogaethau o anifeiliaid i'w ddibenion a'i bwrpas ei hun, megis ar gyfer bwyd (gan gynnwys cig, llaeth, ac wyau), ar gyfer deunyddiau (fel lledr, sidan a gwlân), fel anifeiliaid anwes, ac fel anifeiliaid gwaith gan gynnwys ar gyfer cludo. Defnyddiwyd cŵn i hela, yn ogystal ag adar ysglyfaethus, tra bod llawer o anifeiliaid daearol a dyfrol yn cael eu hela ar gyfer chwaraeon. Mae anifeiliaid wedi ymddangos mewn celf o'r amseroedd cynharaf ac yn cael sylw mewn mytholeg a chrefydd.
Mae'r hwiangerdd Gymraeg Pais Dinogad yn nodi llawer o anifeiliad oedd yn cael eu hela gan dad y plentyn:
2 a : one of the lower animals as distinguished from human beings b : mammal; broadly : vertebrate