Ankstmusik | |
Sefydlwyd | 1998 |
---|---|
Sylfaenydd | Emyr Glyn Williams |
Math o gerddoriaeth | Amrywiaeth annibynnol |
Gwlad | Cymru |
Label recordio yw Ankstmusik, a grëwyd pan ymrannodd cwmni Ankst yn ddau ym 1998. Mae wedi ei lleoli ym Mhentraeth ar Ynys Môn ac yn cael ei redeg gan Emyr Glyn Williams, sy'n rhyddhau recordiau gan fandiau megis Datblygu y Tystion, Ectogram, Zabrinski, Rheinallt H Rowlands, MC Mabon a Wendykurk.
Yn 2005 dechreuodd Ankstmusik gynhyrchu ffilmiau, gan greu Y Lleill, ffilm ddwy-ieithog a aeth ymlaen i ennill BAFTA ar gyfer y ffilm orau yn seremoni gwobrwyo Bafta Cymru 2006[1] yn ogystal ag ennill sawl gwobr arall. Y ffilm ganlynol oedd, Nobody Knows if it Ever Happened, yn dogfennu gig y grŵp Almaeneg Faust yn Llundain ym 1996.