Ann Parry Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Bangor ![]() |
Man preswyl | Llanilar ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | Celtegwr, academydd, geiriadurwr ![]() |
Cysylltir gyda | Geiriadur Prifysgol Cymru ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ![]() |
Ieithydd, geiriadurwraig ac academydd yw'r Athro Ann Parry Owen sy'n arbenigo yn iaith a barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Ganwyd hi ym Mangor ac mae'n byw yng Ngheredigion.
Mae Parry Owen o deulu diwylliedig, gyda'i thaid, Huw Parry Owen (neu "Huw Foelgrachen") yn fardd gwlad o ardal Uwchaled; sgwennwyd bywgraffiad ohono gan ei fab, Ellis Parry Owen, sef Huw Foelgrachen, Gwasg Gee (1978).[1] Roedd taid Huw yntau'n fardd, a chyhoeddodd bamffled Tecel, gyda'r is-deitl yn nodi: ychydig o ganiadau gan hen ŵr godrau'r mynydd, sef Gabriel Parry. Llanrwst. Argraffwyd gan J. Jones 1854. Sonnir am Gabriel Parry hefyd yn y gyfrol Cwm Eithin fel 'bardd a rhigymwr, gyda natur llenydda ynddo', a disgrifir sut y cododd dyddyn unnos iddo ef a'i wraig Mari yn ardal Uwch Aled ar ôl dychwelyd o Lerpwl.[2]