Anne Hyde | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1637 Windsor |
Bu farw | 31 Mawrth 1671 Palas Sant Iago |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | pendefig, boneddiges breswyl |
Tad | Edward Hyde, Iarll Clarendon 1af |
Mam | Frances Hyde |
Priod | Iago II & VII |
Plant | Mari II, Anne, brenhines Prydain Fawr, James Stuart, Charles Stuart, Edgar Stuart, Charles Stuart, Henrietta Stuart, Catherine Stuart |
Llinach | y Stiwartiaid |
Aelod y teulu frenhinol o Loegr oedd Anne Hyde (12 Mawrth 1637 – 31 Mawrth 1671). Roedd hi'n Duges Efrog ac Albany fel gwraig gyntaf James, Dug Efrog (y Iago II/VII yn ddiweddarach). Mam i ddwy frenhines oedd hi.
Roedd Anne yn ferch i'r gwleidydd Edward Hyde (a grëwyd yn Iarll Clarendon yn ddiweddarach). Priododd hi â Iago ym 1660 ar ôl cwrdd yn yr Iseldiroedd. Roedd Anne yn feichiog ar adeg eu priodas. Roedd brawd Iago, Siarl II, brenin Lloegr, eisiau i'r briodas ddigwydd. Roedd gan Iago ac Anne wyth o blant, ond bu farw chwech yn ystod plentyndod cynnar. [1] Y ddau a oroesodd i fod yn oedolion oedd brenhinoedd y dyfodol, Mari II ac Anne. Roedd llawer o feistresi gyda Iago hefyd.