Anne Rice | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Anne Rampling, A. N. Roquelaure ![]() |
Ganwyd | Howard Allen Frances O'Brien ![]() 4 Hydref 1941 ![]() New Orleans ![]() |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2021 ![]() o strôc ![]() Rancho Mirage ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr ![]() |
Adnabyddus am | Interview with the Vampire ![]() |
Arddull | llenyddiaeth arswyd, erotic literature, ffantasi ![]() |
Priod | Stan Rice ![]() |
Plant | Michele Rice, Christopher Rice ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Cynhadledd Arswyd Fydeang yr Uwch Feistr, Locus Award for Best Horror Novel ![]() |
Gwefan | http://www.annerice.com ![]() |
Awdur Americanaidd oedd Anne Rice (4 Hydref 1941 – 11 Rhagfyr 2021) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd a sgriptiwr ffuglen gothig, Cristnogol ac erotig. Yn 2019 ei gwaith mwyaf poblogaidd oedd The Vampire Chronicles a addaswyd yn nifer o ffilmiau: Interview with the Vampire (1994) a Queen of the Damned (2002).
Ganed Howard Allen Frances O'Brien yn New Orleans ar 4 Hydref 1941. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol San Francisco, Prifysgol y Merched, Texas a Phrifysgol Gogledd Tecsas. [1] Priododd yr arlunydd Stan Rice yn 1961 a bu'r ddau briod am 41 o flynyddoedd tan iddo farw o gancr yn 2002 yn 60 oed.[2][3][4][5][6][7]
Mae'r awdur Christopher Rice yn blentyn iddi; collodd blentyn arall, Michelle, yn 5 oed o liwcimia.[8][9]
Treuliodd Rice lawer o'i bywyd cynnar yn New Orleans cyn symud i Texas, ac yn ddiweddarach i San Francisco. Cafodd ei magu mewn teulu Catholig eitha llym, ond daeth yn agnostig pan oedd yn oedolyn ifanc. Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu proffesiynol gyda chyhoeddi Interview with the Vampire ym 1976, wrth fyw yng Nghaliffornia, a dechreuodd ysgrifennu dilyniannau i'r nofel yn yr 1980au. Yng nghanol y 2000au, dychwelodd at Babyddiaeth, cyhoeddodd Rice y nofelau Christ the Lord: Out of Egypt and Christ the Lord: The Road to Cana, adroddiadau ffuglennol o rai digwyddiadau ym mywyd Iesu Grist. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach fe ymbellhaodd oddi wrth Gristnogaeth confensiynol, gan nodi anghytuno â safbwyntiau'r Eglwys Gatholig ar faterion cymdeithasol ond gan addo bod ffydd yn Nuw yn parhau i fod yn "ganologig i'w bywyd." Fodd bynnag, mae hi bellach yn ystyried ei hun yn ddyneiddiwr seciwlar.[10]
Roedd cyfanswm gwerthiant ei llyfrau, erbyn 2019, dros 10 miliwn, sy'n rhoi Anne Rice yn agos iawn i frig y tabl awduron Americanaidd benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[11][12]
What do the words, "secular humanism," mean to you? Can you explain? (I am a secular humanist myself and I am thankful to be living in what I believe to be a secular humanist country, but I welcome your thoughts on this.)