![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | hacker group, mudiad cymdeithasol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2003 ![]() |
Sylfaenydd | El h ![]() |
![]() |
Meme rhyngrwyd yw Anonymous (Saesneg am "ddienw"), sy'n gallu cyfeirio at gysyniad sy'n gyffredin i sawl defnyddiwr rhyngrwyd, cysyniad a rennir gan gymuned anffurfiol o ddefnyddwyr arlein, neu'r gymuned arlein honno ei hun, sy'n gweithredu'n ddienw mewn cytgord, fel arfer tuag at gyflawni bwriad y ceir cydsyniad cyffredinol yn ei gylch. Yn ogystal, mae'n label a ddefnyddir gan grwpiau o bobl ar y we, heb eu trefnu'n grwp fel y cyfryw, sy'n cyfuno i brotestio ac ar gyfer gweithrediadau eraill dan yr enw "Anonymous". Fel "grŵp" neu "gymuned" nid oes gan Anonymous unrhyw strwythur ffurfiol o gwbl.
Dyfyniad enwocaf o'r grŵp anhysbys yw
Rydyn ni'n anhysbys
Lleng ydyn ni
Nid ydym yn maddau
Nid ydym yn anghofio
Disgwyl ni.[1]