Enghraifft o: | epoc, cyfres |
---|---|
Rhan o | Cwaternaidd |
Rhagflaenwyd gan | difodiant yn yr Holocene |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Anthroposen yw'r enw awgrymedig a ddynodwyd i'r epoc daearegol yn dyddio o ddechreuad effeithiau sylweddol y ddynoliaeth ar ddaeareg ac ecosystemau'r blaned gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, newid hinsawdd anthropogenig.
Bathwyd yr enw gan y biolegydd Eugene Stoermer yn niwedd y 1980au, a fe'i poblogeiddiwyd gan y meteorolegydd a chemegydd Paul J. Crutzen yn 2000. Yn 2008, y daearegwr Jan Zalasiewicz oedd y cyntaf i gynnig yn ffurfiol i gydnabod yr anthroposen yn epoc daearegol.[1]