![]() | |
Math | gwlad Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Prifddinas | Willemstad ![]() |
Poblogaeth | 197,041 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Wilhelmus van Nassouwe ![]() |
Cylchfa amser | UTC−04:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Papiamento, Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ymerodraeth yr Iseldiroedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 800 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Ffrainc ![]() |
Cyfesurynnau | 15°N 66°W ![]() |
![]() | |
Arian | Netherlands Antillean guilder ![]() |
Rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd ym Môr y Caribî oedd Antilles yr Iseldiroedd. Cynhwysodd y diriogaeth ddau grŵp o ynysoedd: Arwba, Curaçao a Bonaire oddi ar arfordir Feneswela a Sint Eustatius, Saba a Sint Maarten (hanner deheuol ynys Saint Martin) tua 800 km i'r gogledd-ddwyrain. Willemstad, ar ynys Curaçao, oedd y brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Gadawodd Arwba Antilles yr Iseldiroedd ym 1986. Rhwng 2000 a 2005, pleidleisiodd y gweddill o'r ynysoedd i ddiddymu'r undeb. Ar 10 Hydref 2010, daeth Curaçao a Sint Maarten yn wledydd ymreolaethol tu fewn i Deyrnas yr Iseldiroedd. Daeth Bonaire, Sint Eustatius a Saba yn fwrdeistrefi arbennig o dan reolaeth uniongyrchol yr Iseldiroedd.