Apache

Apache
Enghraifft o:pobloedd brodorol, grŵp ethnig Edit this on Wikidata
Mathpobloedd brodorol yr Amerig Edit this on Wikidata
MamiaithSouthern athabaskan, saesneg edit this on wikidata
Poblogaeth111,810 Edit this on Wikidata
CrefyddNative american church, siamanaeth, cristnogaeth edit this on wikidata
Yn cynnwysWestern Apache, Chiricahua, Jicarilla Apache, Plains Apache, Lipan Apache people, Mescalero Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl yma yn trafod y grwp ethnig Apache. Am ystyron eraill, gweler Apache (gwahaniaethu)
Geronimo, un o arweinwyr enwocaf yr Apache

Apache yw'r gair a ddefnyddir am nifer o grwpiau ethnig cysylltiedig sy'n frodorol i dde-orllewin yr Unol Daleithiau. Maent yn grwpiau sy'n siarad iaith Dde Athabasgaidd neu "Apacheaidd". Nid yw'r term fel y defnyddir ef heddiw yn cynnwys y Nafacho (Navaho), er eu bod hwythau'n siarad iaith debyg ac yn cael eu hystyried yn bobl Apacheaidd. Mae'n bosibl fod y gair Apache yn dod o'r Sbaeneg. Cofnodir ef gyntaf gan Juan de Oñate yn 1598, ond nis gwyddir beth oedd ei darddiad. Mae eraill yn cynnig ei fod yn tarddu o'r gair Zuni apachu ('gelyn') neu o'r gair Yuman e-patch ('dyn'). Geilw yr Apacheiaid eu hunain yn N'De neu Déné, sef "Y Bobl". Rhennir yr Apache yn:

Ceir hwy yn byw yn nhaleithiau Arizona, Mecsico Newydd, Oklahoma a Texas.

Prif leoliadau y grwpiau Apacheaidd heddiw

Bu llawer o ymladd rhwng yr Apache a'r Sbaenwyr, Mecsicaniaid a'r Unol Daleithiau, a daethant yn adnabyddus fel ymladdwyr ffyrnig a galluog. Ymhlith yr enwocaf o'r harweinwyr oedd Mangas Coloradas, Cochise, Victorio a Geronimo. Dan arweiniad Geronimo, grŵp bychan o Apache Chiricahua oedd yr Indiaid olaf i ymostwng i reolaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau, ar ddiwedd y Rhyfeloedd Apache yn 1886.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne