Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Newidiadau yn Ne Affrica,1948 -1994 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dwf wedi 1948. Nodweddwyd system Apartheid gan ddiwylliant gwleidyddol a oedd yn seiliedig ar baasskap (neu ‘goruchafiaeth gwyn’) oedd yn sicrhau bod De Affrica yn cael ei rheoli'n wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd gan boblogaeth leiafrifol wyn y wlad.[1] Yn ôl y system hon o ddosbarthu haenau cymdeithasol, y dinasyddion gwyn oedd â’r statws uchaf, wedyn pobl Asiaidd a phobl o gefndiroedd ethnig eraill, a'r Affricaniaid du yn isaf. Cyn y 1940au, roedd rhai agweddau ar apartheid wedi dechrau ymddangos ar ffurf rheolaeth leiafrifol gan Dde Affricaniaid gwyn, pan wahanwyd Affricaniaid du oddi wrth hiliau eraill mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac yn nes ymlaen estynnwyd hyn i ddeddfau’n cael eu pasio a thir yn cael ei ddosbarthu.[2][3] Mabwysiadwyd Apartheid yn swyddogol gan Lywodraeth De Affrica wedi i’r Blaid Genedlaethol (y National Party) ddod i rym yn Etholiadau Cyffredinol 1948.[4]
Roedd system o ddosbarthu hiliol wedi dechrau cael ei ffurfio yn Ne Affrica gan Ymerodraeth yr Iseldiroedd yn ystod y 18g.[5] Erbyn diwedd y 19eg ganrif, gyda thwf cyflym a diwydianeiddio ‘British Cape Colony’, sef trefedigaeth Brydeinig yn Ne Affrica, dechreuodd polisïau a chyfreithiau hiliol ddod yn fwy llym. Roeddent yn gwahaniaethu’n benodol yn erbyn Affricaniaid du.[6] Roedd polisïau gweriniaethau’r Boer yn gwahaniaethu’n hiliol hefyd - er enghraifft, roedd cyfansoddiad gweriniaeth Transvaal yn gwahardd Affricaniaid du a phobl â lliw croen tywyll rhag ymwneud ag eglwys na gwladwriaeth.[7]
Y ddeddf apartheid gyntaf i gael ei phasio oedd Deddf Gwahardd Priodasau Cymysg yn 1949 ac yna Deddf Anfoesoldeb yn 1950, a oedd yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddinasyddion De Affrica briodi neu gael perthynas rywiol oedd yn croesi ffiniau hil. Roedd Deddf Cofrestru’r Boblogaeth 1950 yn categoreiddio pawb yn Ne Affrica mewn un o dri grŵp, sef gwyn, cymysg eu hil a brodorion/du[8] ac roedd llefydd byw pobl yn cael eu penderfynu ar sail dosbarthiad hil.[9] Rhwng 1960 a 1983, symudwyd 3.5 miliwn o Affricaniaid du o’u cartrefi a’u gorfodi i fyw mewn ardaloedd ar wahân o ganlyniad i ddeddfwriaeth apartheid. Hon oedd un o brosesau dadfeddiant mwyaf hanes modern.[10] Bwriad y dadfeddiannu hwn oedd cyfyngu poblogaeth pobl ddu i ddeg ardal benodedig a ddisgrifiwyd fel ‘mamwlad lwythol’, neu bantustans, gyda phedwar ohonynt yn datblygu’n wladwriaethau annibynnol.[11] Cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai unrhyw un oedd yn cael ei adleoli yn colli eu dinasyddiaeth yn Ne Affrica gan y byddent yn cael eu hamlyncu gan y bantustans.[12]
Enynnodd Apartheid wrthwynebiad sylweddol yn rhyngwladol ac oddi mewn i'r wlad ei hun.[13] Condemniwyd Apartheid gan y Cenhedloedd Unedig a rhoddwyd embargo arfau a masnach sylweddol ar Dde Affrica yn ogystal â boicotiau ym maes chwaraeon.[14] Yn ystod y 1970au a’r 1980au roedd y gwrthwynebiad mewnol i Apartheid y tu mewn i Dde Affrica wedi troi’n fwyfwy milwriaethus, ac achosodd hyn i ymateb Llywodraeth y Blaid Genedlaethol fod yn ffyrnig o dreisgar. Achoswyd trais sectaraidd ar raddfa eang, gyda miloedd yn marw neu’n cael eu carcharu.[15] Gwnaed rhai diwygiadau i’r system apartheid ond methodd y mesurau hyn gwrdd â gofynion y grwpiau ymgyrchu.[13]
Rhwng 1987 a 1993 dechreuodd y Blaid Genedlaethol drafodaethau gyda’r African National Congress (ANC), y prif fudiad gwrth-apartheid, er mwyn trafod rhoi diwedd ar arwahanu a chyflwyno llywodraeth fwyafrifol.[16][17]
Yn 1990 rhyddhawyd unigolion blaenllaw o'r ANC, fel Nelson Mandela, o’r carchar. Dechreuwyd felly cael gwared ar y system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddu ag Etholiad Cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica lle'r oedd cyfle i bawb bleidleisio.[18]