Enghraifft o: | ethnological term |
---|---|
Math | tillage machine, vehicle attachment, perianwaith amaethyddol, offeryn |
Olynwyd gan | two-wheel tractor |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir aradr mewn amaethyddiaeth i drin y tir cyn plannu cnydau. Mae wedi bod yn erfyn sylfaenol i'r amaethwr bron o ddechrau hanes, a chafodd datblygiad yr aradr ddylanwad mawr ar ddatblygiad amaethu. Ei brif bwrpas yw troi yr haen uchaf o bridd.
Yn draddodiadol, tynnid yr ardar gan ych ac yn ddiweddarach gan geffylau. Erbyn heddiw, defnyddir tractor fel rheol mewn gwledydd datblygedig.
Pan ddatblygodd ffermio yn wreiddiol, defnyddid erfynnau llaw i drin y tir. Wedi dofi'r ych ym Mesopotamia a Gwareiddiad Dyffryn Indus, efallai yn y 6ed ganrif CC, dyfeiswyd yr aradr gyntaf. Ar y cychwyn nid oedd ond ffrâm yn dal darn o bren a mîn ar ei flaen, a dynnid trwy'r tir. Mae'r math yma ar aradr yn gadael rhesi o bridd heb ei droi, gan adael patrwm nodweddiadol y gellir ei weld hyd heddiw mewn ambell fan. Yn ddiweddarach datblygwyd aradrau oedd yn troi'r tir yn hytrach na'i grafu; roedd datblygiad y cwlltwr yn bwysig yma.