![]() | |
Enghraifft o: | genetic unit ![]() |
---|---|
Math | Northwest Semitic ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Old Aramaic ![]() |
Olynwyd gan | Chaldean Neo-Aramaic ![]() |
Enw brodorol | ܠܫܢܐ ܐܪܡܝܐ ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
System ysgrifennu | Aramaic alphabet ![]() |
![]() |
Mae Aramaeg yn iaith Semitaidd sy'n perthyn i gangen orllewinol y grŵp hwnnw o ieithoedd.
Roedd gan yr iaith Aramaeg wyddor 22 llythyren, neu gymeriad, a osododd y cynseiliau ar gyfer gwyddorau'r Hebraeg ac Arabeg.
Daeth Aramaeg i gael ei defnyddio ar raddfa eang yng nghyfnod olaf yr Ymerodraeth Fabilonaidd. Erbyn amser yr ymerodr Darius I Aramaeg oedd iaith swyddogol yr Ymerodraeth Bersiaidd ac yn lingua franca y rhan fwyaf o'r Dwyrain Canol, o orllewin Persia i Alecsandria yn yr Aifft.
Yn ystod y cyfnod rhwng yr Alltudiaeth yn Babilon (tua 605 CC) hyd at ddechrau'r cyfnod Islamaidd, cymerodd Aramaeg le'r Hebraeg fel iaith lafar yr Iddewon. Aramaeg felly oedd iaith Iesu o Nasareth a'i ddisgyblion.