![]() Archdderwydd Eisteddfod 1910 | |
Enghraifft o: | galwedigaeth, teitl corfforaethol ![]() |
---|---|
Math | arweinydd mudiad, prif swyddog ![]() |
Cysylltir gyda | Eisteddfod Genedlaethol Cymru ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Yr Archdderwydd yw llywydd Gorsedd y Beirdd, ac sydd felly yn llywyddu ar brif ddefodau Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Er mai Iolo Morgannwg oedd y cyntaf i lywyddu'r Orsedd pan y'i sefydlwyd, ei olynydd, David Griffiths, dan yr enw barddol "Clwydfardd" oedd yn cyntaf i'w adnabod gyda'r teitl swyddogol.[1]
Ers 1932, dim ond enillwyr blaenorol o'r Goron neu'r Gadair sy'n gymwys i fod yn Archdderwydd. Erbyn cychwyn yr 21G, ehangwyd hyn i gynnwys enillwyr y Fedal Ryddiaith a'r cyntaf i'w ethol dan y rheol yma oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002–05).[1] Christine James, a ddaeth yn Archdderwydd yn 2013, oedd y fenyw gyntaf a'r dysgwr Cymraeg cyntaf (h.y. unigolyn lle nad oedd y Gymraeg yn famiaith) i ddal y teitl.[2]
Ers yr Ail Ryfel Byd, dim ond un Archdderwydd sydd wedi gwasanaethau mwy nag un cyfnod tair blynedd. Etholwyd Albert Evans-Jones ("Cynan") yn 1950 ac eto yn 1963, ac fe'i ystyrir yn ddylanwad rhyddfrydol ar yr ŵyl; derbyniodd yn gyhoeddus nad oedd gan yr eisteddfod fodern gysylltiad uniongyrchol â derwyddiaeth hynafol. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i ddiwylliant Cymreig, yr unig Archdderwydd i dderbyn y teitl.[3]
Yn dilyn gohirio Eisteddfod Genedlaethol 2020 oherwydd Pandemig COVID-19, penderfynwyd ymestyn cyfnod yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd. Newidiwyd y rheolau hefyd er mwyn pennu tymor pob Archdderwydd bellach yn ymestyn dros dair Eisteddfod yn hytrach na thros dair blynedd.[4]
Yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam ar 27 Ebrill 2024, trosglwyddwyd yr awenau i Mererid Hopwood, dim ond yr ail fenyw erioed i fod yn archdderwydd.