![]() | |
Math | ardal an-fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Suffolk |
Prifddinas | Needham Market, Ipswich ![]() |
Poblogaeth | 102,493 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Suffolk (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 871.0707 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.156°N 1.0489°E ![]() |
Cod SYG | E07000203 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Mid Suffolk District Council ![]() |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Suffolk, Dwyrain Lloegr, yw Ardal Canol Suffolk (Saesneg: Mid Suffolk District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 871 km², gyda 102,493 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Ardal Gorllewin Suffolk i'r gorllewin, Ardal Babergh a Bwrdeistref Ipswich i'r de, Ardal Dwyrain Suffolk i'r dwyrain, a Norfolk i'r gogledd.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae aneddiadau yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Stowmarket, Eye a Needham Market.
Ers 2011 mae Ardal Canol Suffolk ac Ardal Babergh wedi bod yn cydweithredu i ddarparu gwasanaethau, ac wedi bod yn archwilio'r posibiliadau o uno fel un awdurdod.