Ardal Tokyo Fwyaf

Diffiniad Un ddinas, tair talaith o Ardal Tokyo Fwyaf. Ceir nifer o ddifiniadau gwahanol eraill o'r ardal
Ardal Shibuya, Tokyo fin nos

Ardal drefol fawr yn ardal Kantō, Japan yw Ardal Tokyo Fwyaf neu Ardal Tokyo Fawr, sydd yn cynnwys y rhan helaeth (neu gyflawn) o daleithiau Kanagawa, Saitama, Chiba a Tokyo (yn y canol).

Yn Japaneg, ceir nifer o enwau i ddisgrifio'r ardal: Ardal Tokyo (東京圏 Tōkyō-ken), Rhanbarth y Brifddinas (首都圏 Shuto-ken), Un ddinas, tair talaith (一都三県 Itto Sanken) ymysg rhai eraill.

Dyma un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth yn 2010 o tua 36 miliwn.[1] Er hyn, mae nifer o ddiffiniadau gwahanol o ffiniau Ardal Tokyo Fwyaf, pob un â phoblogaeth gwahanol.

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-10. Cyrchwyd 2010-08-04.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne