![]() | |
Enghraifft o: | phase of human life, oed ![]() |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | childhood, preadolescence ![]() |
Olynwyd gan | adulthood, postadolescence ![]() |
![]() |
Cyfnod o drawsnewid corfforol a meddyliol yn natblygaeth dyn yw'r arddegau, sy'n digwydd rhwng plentyndon ac oedolaeth. Mae'r trawsnewid ynghlwm â newidiadau biolegol (h.y. glasoed), cymdeithasol, a ffisiolegol, ond y biolegol a'r ffisiolegol yw'r hawsaf i'w mesur yn wrthrychol. Yn hanesyddol, cysylltwyd y glasoed gyda phobl yn eu arddegau a chychwyd datblygiad arddegau.[1][2] Ond yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae dechrau arddegau, wedi cynyddu yn y cyn-arddegau ac yn ymestyn ar ôl yr arddegu, gan wneud arddegau yn anoddach i'w ddiffinio.[1][2]
Mae diwedd yr arddegau a dechrau oedolaeth yn amrywio o wlad i wlad yn ogystal â swyddogaeth, hyd yn oed o fewn yr un wlad bydd gwahanol oedrananu lle cysidrir unigolyn i fod yn ddigon aeddfed i dderbyn cyfrifoldeb am wahanol dasgau, megis gyrru car, cael rhyw, gwasanaethu yn y lluoedd arfog, pleidleisio neu phriodi.