Tarian draddodiadol y Maasai a gynhelir gan ddau lew yw arfbais Cenia. Mae'r darian yn debyg i'r un a ymddengys yng nghanol y faner genedlaethol, ond yn dangos stribedi'r faner a cheiliog gwyn yn dwyn bwyell, symbol y blaid KANU. Fel ar y faner, mae dau waywffon wedi eu croesi y tu ôl i'r darian. Saif y cynheiliaid ar fownt sydd yn portreadu Mynydd Cenia a sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Harambee.[1]