Arglwyddes Godiva | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Unknown ![]() Mersia ![]() |
Bu farw | 10 Medi 1067 ![]() Teyrnas Lloegr ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Priod | Leofric ![]() |
Plant | Ælfgar ![]() |
Uchelwraig Sacsonaidd o'r 11g oedd yr Arglwyddes Godiva (neu Godifa) (Hen Saesneg: Godiva, sef "Anrheg gan Dduw"); Saesneg Diweddar: Lady Godiva), yn ôl y chwedl. Mae'r chwedl amdani'n tarddu'n ôl i'r 13g ac yn ei disgrifio'n marchogaeth ceffyl drwy strydoedd Coventry yn noethlymun, er mwyn derbyn pardwn gan denantiaid ei gŵr am godi rhent a threthi mor aruchel. Dywed chwedl arall i'w gŵr ei hateb gan ddweud y byddai'n rhoi gostyngiad yn y trethi "y diwrnod y byddai hi'n marchogaeth drwy'r dref yn noeth". Cymherodd hi ef yn llythrennol, a gwnaeth hynny ond gorchmynodd i drigolion y dref gadw i'w tai a chau'r ffenestri rhag ei gweld yn noeth.
Mewn fersiwn diweddarach o'r chwedl hon y defnyddiwyd y gair "peeping Tom" (neu voyer) am deiliwr lleol o'r enw "Tom" a ddallwyd pan edrychodd arni'n noeth. Yn ei lyfr The Journey from Chester to London (Y Siwrnai o Gaer i Lundain) ysgrifennodd y naturiaethwr Cymreig Thomas Pennant (1726-1798) am y digwyddiad hwn: "...ac o ran cywreinrwydd, cymerodd y teiliwr gip sydyn arni, gan drechu ei ofnau." Roedd yn disgrifio'r prosesiwn, blynyddol, a dywedodd fod yr actores a gymerai ran Arglwyddes Godifa wedi'i dilladu mewn "sidan tynn, o liw croen".[1]