Cyfnod o ddadlau a chynnwrf gwleidyddol yn Nheyrnas Lloegr ynghylch olyniaeth y Brenin Siarl II, oedd Argyfwng y Gwahardd (1679–81) a ysgogwyd gan ymgyrch seneddol i rwystro'i frawd Catholig, Iago, Dug Efrog, rhag esgyn i'r orsedd.
Yn sgil datgelu'r Cynllwyn Pabaidd ym 1678, lledaenodd pryder y byddai Iago yn sefydlu brenhiniaeth Gatholig absoliwtaidd. Yn y tair senedd a alwyd rhwng 1679 a 1681, defnyddiodd y gwaharddwyr eu mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin i gefnogi mesurau i wahardd Iago o'r olyniaeth frenhinol, ond methodd pob un tro wrth i'r Brenin Siarl ddefnyddio'i frenhinfraint i ddod â'r broses ddeddfwriaethol i ben.
Yr oedd ymgyrch y gwaharddwyr yn erbyn Iago yn gais radicalaidd gan y Senedd i ddeddfu'r olyniaeth, yn groes i'r hen arfer o ildio i awdurdod dwyfol y frenhiniaeth, gan nodi trobwynt cyfansoddiadol yn hanes Lloegr. Argyfwng y Gwahardd oedd anterth y gwrthdaro rhwng y Goron a'r Senedd a fu'n byrlymu ers yr Adferiad ym 1660. Er i'r gwaharddwyr ennill cefnogaeth oddi ar nifer o'r werin wrth-Gatholig, arafodd y mudiad wrth i bobl ofni rhyfel cartref arall. Gwrthododd y Brenin Siarl alw'r Senedd eto ar ôl 1681, gan felly rhoi taw ar lais yr ymgyrch.