![]() | |
Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Ariana ![]() |
Poblogaeth | 576,088 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 482 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 36.8625°N 10.19556°E ![]() |
TN-12 ![]() | |
![]() | |
Talaith yng ngogledd Tiwnisia yw talaith Ariana. Mae'n gorwedd i'r gogledd o ddinas Tiwnis ar lan Môr y Canoldir. Ei phrifddinas yw Ariana, ar gwr deheuol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tiwnis Fwyaf.
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tiwnis a Bizerte trwy'r dalaith. Oherwydd prinder dŵr, nid yw'r tir yn arbennig o ffrwythlon ond tyfir grawnfwydydd fel gwenith yn y meysydd mawr agored yng nghefn gwlad y dalaith, sy'n codi tua'r gorllewin a'r gogledd i rhagfryniau mynyddoedd y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir gogledd Tiwnisia i'r ffin ag Algeria, ger Tabarka.
Lleolir dinas Utique, safle dinas hynafol Utica, un o chwaer-ddinasoedd Carthago'r Ffeniciaid, yng nghwr gogledd-orllewinol Ariana.