Arianrhod | |
---|---|
Y wybren a'r sêr | |
Aelod o Tair Morwyn Hardd Prydain[1] | |
Prif le cwlt | Cymru |
Planed | Lleuad |
Symbol | Rhod airna |
Rhyw | Benyw |
Achyddiaeth | |
Rhieni | Dôn a Beli Mawr[1] |
Siblingiaid | Penarddun, Amaethon, Gilfaethwy, Gofannon, Gwydion, a Nudd[1] |
Consort | Math fab Mathonwy drwy ragosodiad |
Epil | Dylan ail Don a Lleu Llaw Gyffes[1] |
Cymeriad a gysylltir yn bennaf â chwedl Math fab Mathonwy, y Bedwaredd o Geinciau'r Mabinogi, yw Arianrhod (ffurf amgen, Aranrhod) neu Arianrhod ferch Dôn. Credir ei bod yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol. Mae'n blentyn i Feli Mawr a Dôn.[1] Roedd hi'n chwaer i'r dewin Gwydion a'i frawd Gilfaethwy ac yn fam i Ddylan Eil Don a'r arwr Lleu Llaw Gyffes.