Arllechwedd Isaf

Arllechwedd Isaf
Hen eglwys Llangelynnin
Mathcwmwd, gwrthrych daearyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEsgobaeth Bangor, Arllechwedd Edit this on Wikidata
SirGwynedd, Arllechwedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaArllechwedd Uchaf, Nant Conwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2167°N 3.8167°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd, gydag Arllechwedd Uchaf a Nant Conwy, oedd Arllechwedd Isaf. Fel gweddill y cantref, roedd yn rhan o Esgobaeth Bangor ac yn parhau felly hyd heddiw.

Roedd y cwmwd yn cynnwys rhan ogleddol Dyffryn Conwy a chymoedd dwyreiniol y Carneddau. Ffiniai ag Arllechwedd Uchaf i'r gorllewin, gyda'r ffin yn rhedeg o benrhyn y Penmaen-bach (rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy heddiw) yn y gogledd i'r Creigiau Gleision ger Capel Curig yn y de. I'r de ffiniai â chwmwd Nant Conwy gyda llinell y ffin yn rhedeg o'r Creigiau Gleision trwy Lyn Cowlyd ac i lawr i Ddyfryn Conwy ger Abaty Maenan. Roedd yn cynnwys llecyn o dir yr ochr arall i'r afon (plwyf Maenan), ond fel arall dynodai afon Conwy'r ffin â chantref Rhos yn y Berfeddwlad.

Roedd canolfan bwysig yn Aberconwy, safle'r abaty Sistersiaidd a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr (Abaty Aberconwy).

Roedd fferis bwysig ger Tal-y-Cafn a Threfriw. Cysylltir caer Rufeinig Caerhun â Rhun ap Maelgwn Gwynedd. Rhedai ffordd Rufeinig o Gaerhun dros Fwlch y Ddeufaen i Abergwyngregyn; dyma'r brif dramwyfa yn yr Oesoedd Canol hefyd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne