Enghraifft o: | tacson |
---|---|
Safle tacson | teulu |
Rhiant dacson | Cingulata |
Dechreuwyd | Mileniwm 58700. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Armellogion | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Uwchurdd: | Xenarthra |
Urdd: | Cingulata |
Teulu: | Dasypodidae Gray, 1821 |
Mamal â phlatiau esgyrnog yn amddiffyn ei ben a'i gorff yw armellog neu armadilo (hefyd dulog yn y Wladfa). Mae armellogion modern yn perthyn i'r teulu Dasypodidae sy'n cynnwys tua 21 o rywogaethau. Fe'u ceir yng Nghanolbarth a De America ac mae un rywogaeth yn cyrraedd de'r Unol Daleithiau. Maent yn hollysyddion sy'n bwydo ar infertebratau, anifeiliaid marw a phlanhigion.
Mae armellogion yn famaliaid brychol (placental mammals]] yn y Byd Newydd yn yr urdd Cingulata. Mae'r enw amgen Armadilo yn golygu "rhai arfog bach" yn Sbaeneg. Y Chlamyphoridae a'r Dasypodidae yw'r unig deuluoedd sydd wedi goroesi yn yr urdd, sy'n rhan o'r Uwch-urdd Xenarthra, sy'n cynnwys hefyd y morgrugyswyr (anteaters) a'r diogynnod ( sloths). Disgrifiwyd naw genws diflanedig a 21 rhywogaeth o armadilo sydd wedi goroesi, a nodweddir rhai ohonynt gan nifer y bandiau ar eu harfwisg. Mae pob rhywogaeth yn frodorol i'r Americas, lle maent yn trigo mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol.
Nodweddir armellogion gan gragen arfwisg lledraidd a chrafangau hir, miniog ar gyfer cloddio. Mae ganddynt goesau byr, ond gallant symud yn eithaf cyflym. Mae hyd cyfartalog armellog tua 75 cm (30 modfedd), gan gynnwys ei gynffon. Mae'r armellog mawr yn tyfu hyd at 150 cm (59 modfedd) ac yn pwyso hyd at 54 kg (119 pwys), tra bod gan y lleiaf yn y genws hyd o 13-15 cm yn unig (5-6 modfedd). Pan fyddant dan fygythiad gan ysglyfaethwr, mae rhywogaethau Tolypeutes yn aml yn rholio i fyny i bêl; dyma'r unig rywogaeth o armadillo sy'n gallu gwneud hyn.