Enghraifft o: | arsyllfa seryddol, sefydliad |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 14 Mai 1935 |
Yn cynnwys | telesgop Zeiss |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Los Angeles |
Gwefan | http://www.griffithobservatory.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Arsyllfa Griffith yn arsyllfa yn Los Angeles, Califfornia, ar lethr sy'n wynebu'r de o Mount Hollywood ym Mharc Griffith. O'r copa gellir gweld Basn Los Angeles gan gynnwys Downtown Los Angeles i'r de-ddwyrain, Hollywood i'r de, a'r Cefnfor Tawel i'r de-orllewin. Mae'r arsyllfa yn atyniad poblogaidd i dwristiaid ac o fewn tafliad carreg at yr Arwydd Hollywood nodedig ac amrywiaeth helaeth o lawntiau ac arddangosfeydd sy'n ymwneud â gwyddoniaeth. Enwir yr arsyllfa ar ôl y Cymro a dalodd am godi'r adeilad hwn, sef Griffith J. Griffith. Rhodd ganddo i'r ddinas oedd Parc Griffith hefyd. Mae mynediad am ddim ers agor yr arsyllfa yn 1935, yn unol ag ewyllys Griffith.
Ers ei agor, mae dros 9 miliwn o bobl wedi edrych trwy delesgop 12-modfedd (30.5 cm) plygiant Zeiss, sy'n golygu mai hwn yw'r telesgop yr edrychir arno fwyaf yn y byd.[1] Mae thema'r gofod yn parhau y tu mewn i'r adeilad.[2]