Arthur | |
---|---|
Genre | Cyfres deledu plant |
Crëwyd gan | Greg Bailey yn seiliedig ar lyfrau Marc Brown |
Serennu | Gweler Cymeriadau |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau Canada |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 11 (12fed i ddod) |
Nifer penodau | 155 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud (tua 11 munud pob pennod) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | PBS |
Rhediad cyntaf yn | 1996 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Cyfres deledu animeiddiedig Canadaidd ac Americanaidd sy'n seiliedig ar lyfrau Arthur, a ddarlunwyd ac ysgrifennwyd gan Marc Brown, yw Arthur. Caiff ei ddarlledu ar rwydwaith PBS yn bennaf yn yr Unol Daleithiau; Radio-Canada, Knowledge Network a TVO yng Nghanada; a BBC One yn y Deyrnas Unedig, ymysg sianeli a rhwydweithiau eraill.
Mae pob pennod fel arfer yn dilyn Arthur Timothy Read, cymeriad sy'n aardvark anthropomorffaidd, a'i rhyngweithiad gyda'i gyfoedion a'i deulu o ddydd i ddydd. Mae'r gyfres yn delio gyda maerion cymdeithasol ac iechyd sy'n effeithio plant bach. Mae pwyslais trwm ar werthoedd addysgol lyfrau a llyfrgelloedd. Dechreuodd Cinar (Cookie Jar Entertainment erbyn hyn) gynhyrchu'r gyfres animeiddiedig yn 1994, a cafodd ei ddarlledu ar sianel PBS dyflwydd yn ddiweddarach.