Math | talaith India ![]() |
---|---|
Prifddinas | Itanagar ![]() |
Poblogaeth | 1,382,611 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Pema Khandu ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 83,743 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Assam, Nagaland, Talaith Kachin, Sagaing Region ![]() |
Cyfesurynnau | 27.1°N 93.4°E ![]() |
IN-AR ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Council of Ministers of Arunachal Pradesh ![]() |
Corff deddfwriaethol | Arunachal Pradesh Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | B. D. Mishra ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Arunachal Pradesh ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Pema Khandu ![]() |
![]() | |
Mae Arunachal Pradesh (Hindi: अरुणाचल प्रदेश Aruṇācal Pradeś) yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Er bod Tsieina hefyd yn hawlio'r diriogaeth yma, ac weithiau'n cyfeirio ati fel "De Tibet", mae'r cyfan ym meddiant India. Mae Arunachal Pradesh yn ffinio â Bhwtan yn y gorllewin, â Tsieina yn y gogledd ac â Myanmar yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n ymestyn i fynyddoedd yr Himalaya, tra mae dyffryn Afon Brahmaputra yn y de. Daeth yn dalaith ar 20 Chwefror 1987.
Itanagar yw prifddinas y dalaith. Roedd y boblogaeth yn 1,097,968 yn 2001 gyda chanran llythrennedd o 54.74%. Mae 65% o'r boblogaeth yn perthyn i tua 20 o grwpiau ethnig o darddiad Tibetaidd a Thai-Bwrmaidd; tra mae'r 35% arall wedi mewnfudo, yn enwedig o rannau eraill o Inia ac o Bangladesh. Y prif lwythau yw'r Adi, Nishi, Monpa ac Apatani. Mae 36% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Animistiaeth, 37% yn ddilynwyr Hindwaeth, 13% yn ddilynwyr Bwdhaeth ac 13% yn Gristionogion.
![]() |
Taleithiau a thiriogaethau India |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |