Enghraifft o: | cysyniad, trichotomy ![]() |
---|---|
Math | nodwedd ![]() |
Rhan o | mathemateg ![]() |
Yn cynnwys | rhif positif, rhif negatif, 0 ![]() |
Defnyddir y symbolau plws a minws i ddangos arwydd rhif. Tarddodd y termau hyn o nodweddion pob rhif real, a ellir eu dosbarthu'n bositif, yn negatif neu'n sero. Mae'r sero'n hyblyg iawn, a gall newid o wlad i wlad: yn bositif, yn negatif, neu ddim yn unrhyw un o'r ddau. Os na chrybwyllir yn benodol, mae'r erthygl hon yn cydymffurfio â'r confensiwn olaf - nad yw sero'n bositif nac yn negatif. Mewn rhai cyd-destunau, mae'n gwneud synnwyr ystyried sero yn arwydd, e.e., mewn cynrychioliadau o bwyntiau arnawf o rifau real o fewn cyfrifiadureg.
Mewn nodiant rhifol cyffredin (sy'n cael ei ddefnyddio mewn rhifyddeg a mannau eraill), mae arwydd rhif yn aml yn cael ei wneud yn glir trwy osod symbol adio (plws) neu dynnu (minws) cyn y rhif. Er enghraifft, mae +3 yn dynodi "tri positif", a -3 yn dynodi "tri negatif". Heb gyd-destun penodol, neu pan na roddir arwydd pendant, dehonglir y rhif fel rhif cadarnhaol, positif. Mae'r nodiant hwn wedi sefydlu perthynas gref rhwng yr arwydd minws "-" gyda rhifau negyddol, ac, yn yr un modd, mae'r arwydd plws "+" yn gysylltiedig â phositifrwydd.
Pan nad yw sero'n bositif nac yn negatif, gellir dweud fod :
Mae gwerth absoliwt rhif real bob tro yn annegatif, ond nid yw hynny'n golygui ei fod yn bositif.