Ashton Kutcher | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Christopher Ashton Kutcher ![]() 7 Chwefror 1978 ![]() Cedar Rapids ![]() |
Man preswyl | Beverly Hills ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, ariannwr, digrifwr, model, actor, perchennog bwyty, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Larry M. Kutcher ![]() |
Priod | Demi Moore, Mila Kunis ![]() |
Partner | Mila Kunis, Brittany Murphy ![]() |
Plant | Wyatt Kutcher, Dimitri Kutcher ![]() |
Perthnasau | Rumer Willis, Scout Willis, Tallulah Willis ![]() |
Actor, cynhyrchydd, a chyn-fodel ffasiwn o'r Unol Daleithiau yw Christopher Ashton Kutcher (ganwyd 7 Chwefror 1978), a adnabyddir fel Ashton Kutcher. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Michael Kelso yng nghomedi sefyllfa Fox, That '70s Show. Creodd a chynhyrchodd y rhaglen Punk'd, ac mae wedi chwarae rhannau arweiniol yn ffilmiau Dude, Where's My Car?, Just Married, The Butterfly Effect, The Guardian a What Happens in Vegas. Fe yw cynhyrchydd a chyd-greawdwr y sioe deledu goruwch naturiol, Room 401, a chyflwynydd y rhaglen deledu Beauty and the Geek. Mae'n briod â'r actores Demi Moore.