Enghraifft o: | math o endid cemegol |
---|---|
Math | inorganic phosphorus oxoacid, triprotic acid |
Màs | 97.977 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | H₃po₄ |
Yn cynnwys | hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnabyddir asid ffosfforig wrth enwau eraill hefyd: asid orthoffosfforig neu asid ffosfforig (V). Asid mwynol ydyw ac asid anorganig, gyda'r fformiwla gemegol H3PO4. Mae moleciwlai o asid orthoffosfforig yn uno gyda'i hunain i greu amrywiaeth o gyfansoddion a elwir hefyd yn asidau ffosfforig.
Mae asid ffosfforig yn wych am dynnu rhwd i ffwrdd; gellir ei roi'n amrwd ar offer haearn neu ddur i droi'r haearn(III) ocsid (rhwd) yn ffosffad - wedi'i hydoddi mewn dŵr:
Caiff ei ddefnyddio mewn cola a diodydd eraill i roi blas egr iddynt. Mae tua 11 mg o ffosfforws ym mhob 100g o'r ddiod[1]. Mae angen ryw 550 mg o ffosfforws y dydd ar berson i'w gadw'n iach[2]. Mae rhai yn credu ei fod yn ddrwg i iechyd pobol. Yn sicr mae lefel asid diodydd o'r fath (oherwydd yr asidau ffosfforig a sitrig) yn andwyol i'r dannedd (mae’r asidau yn toddi eu cyfansoddiad o ffosffad calsiwm). Mae peryglon y ffosffad, sy'n ffurfio wrth i asid ffosfforig ïoneiddio gadael y stumog ac ymuno a'r corff, yn fwy annelwig ac yn dibynnu ar iechyd y person[3][4]. Yn glinigol, mae hypoffosffatemia[5] (diffig ffosffat) yn fwy gyffredin[6].